Gweledigaeth a Syniadau ar gyfer y Gymuned
Gweledigaeth
Mae Llan-non yn dathlu ac arddangos ei straeon, tirwedd, treftadaeth ac atyniadau cyfoethog, gan gynnal ei hunaniaeth a’i ymdeimlad o le. Mae wedi cryfhau ei gyfleusterau cymunedol i gefnogi bywydau llesol ar draws pob oedran, gyda mwy o leoedd ar gyfer chwaraeon, diwylliant a chyfarfodydd cymdeithasol yn helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd. Mae gwell symudiad a diogelwch ar hyd yr A487 wedi adfer canol y pentref fel lle saffach a mwy dymunol i bobl.
Blaenoriaethau a Themâu

Cynllun
Symudiad a Thrafnidiaeth
5Gwella pyrth i’r pentref ar yr A487
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella pyrth i’r pentref ar yr A487. Cyhoeddi hunaniaeth hanesyddol Llan-non gydag arwyddion unigryw sy’n cysylltu ag arwyddion cyfeirio eraill at adnoddau ac atyniadau lleol. Hyn i ddigwydd law yn llaw â gostwng y terfyn cyflymder o 40 i 20mya, defnydd posibl o arwydd LED i ddangos cyflymder.
Rheoli parcio ar y stryd
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Rheoli parcio ar y stryd. Ystyried darpariaeth parcio oddi ar y stryd i drigolion, ond hefyd cynnal parcio tymor byr i siopau a gwasanaethau lleol a fydd yn cefnogi gwelliannau i’r stryd.
Gwella cyfle i groesi i galon y pentref
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella cyfle i groesi i galon y pentref. Dylai canol y pentref fod lle mae’r A487 yn cyfarfod Heol-Y-Dŵr a Stryd-Yr-Ysgol, gan fod y swyddfa bost, siop gyfleustra, siop pysgod a sglodion, tafarn a’r ysgol gynradd gerllaw. Mae’r A487 yn torri drwodd yma gyda cheir yn cymryd blaenoriaeth dros gerddwyr. Mae angen archwilio ffyrdd o greu lle mwy dymunol i bobl, gan gynnal traffig drwodd a pharcio wrth alw heibio.
Gwella wyneb y ffordd ar Lôn yr Eglwys
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella wyneb y ffordd ar Lôn yr Eglwys sy’n cysylltu â Llansanffraed.
Ailwynebu hawliau tramwy
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Ailwynebu hawliau tramwy, yn bennaf o Stryd-Y-Capel i gae chwarae Maes Albion oherwydd y defnydd ar y cyd â cherbydau.
Yr Amgylchedd Leol
6Gwella’r llecyn ger y safle bws ar yr A487
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella’r llecyn ger y safle bws ar yr A487. Cyfle i greu llecyn gwyrdd poced gyda seddau sy’n cefnogi gwelliannau stryd i’r gefnffordd.
Rheoli ardal maes parcio’r traeth
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Rheoli ardal maes parcio’r traeth. Clirio gweddillion stormydd o’r maes parcio a rheoli parcio dros nos.
Diogelu Llwybr Arfordir Cymru rhag erydiad arfordirol.
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Diogelu Llwybr Arfordir Cymru rhag erydiad arfordirol.
Rheoli dŵr ffo i lawr
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Rheoli dŵr ffo i lawr Stryd-Yr-Ysgol trwy ystyried nodweddion gwanhau dŵr ffo, gwrychoedd, lleiniau byffer a gerddi dŵr glaw.
Asesiad Golau Awyr Dywyll
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Asesu goleuadau a defnydd tariannau i gydymffurfio â safonau awyr dywyll.
Diogelu cymeriad hanesyddol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Diogelu cymeriad hanesyddol y pentref ee Y Lleiniau, rhag gorddatblygu. Arfarniad ardal gadwraeth i gadarnhau gwerth y nodweddion canoloesol hyn a nodweddion ac adeiladau sensitif eraill.
Treftadaeth Leol
1Gwella dehongli treftadaeth leol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella dehongli treftadaeth leol fel ei fod ar gael yn ffisegol a digidol, i roi gwybodaeth am gapeli anghydffurfiol y pentref, yr ysgol, a’r ffaith ei fod mewn dyddiau a fu yn gartref i bum tafarn a bragdy, tair efail gof, cryddion, seiri olwynion a becws. Mae lleoedd hanesyddol eraill yn cynnwys Bwthyn Llan-non o’r 18fed ganrif, y pyllau pysgota hynafol ac eglwys Llansanffraed. Mae cyfleoedd hefyd i gysylltu â llwybr Dylan Thomas.
Hybu Cymuned
2Datblygu digwyddiad cymunedol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu digwyddiad cymunedol sy’n dod â phobl at ei gilydd. Gallai’r digwyddiad hefyd gysylltu amryw grwpiau a sefydliadau cymunedol â’i gilydd wrth gynllunio’r gweithgarwch ee y neuadd, yr ysgol gynradd, capeli, yr eglwys, y clwb pêl-droed.
Gwefan Cyngor Cymuned
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu gwefan gymunedol sy’n dathlu bywyd yn Llan-non, rôl y cyngor cymuned, dangos beth sydd ymlaen, a gwybodaeth leol arall.
Adnoddau Cymunedol
5lle chwaraeon aml-ddefnydd
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu’r cyrtiau tennis, oddi ar Stryd-yr-Ysgol, yn lle chwaraeon aml-ddefnydd ar gyfer yr holl gymuned.
Cefnogi neuadd y pentref fel canolfan
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Cefnogi neuadd y pentref fel canolfan. Uwchraddio’r neuadd a buddsoddi ynddi er mwyn sicrhau ei bod yn cefnogi amrywiaeth helaeth o weithgareddau, boed yn grwpiau diddordebau bach neu’n ddigwyddiadau cymunedol mawr. Mae eitemau’n cynnwys gwresogi, llwyfan a gwelliannau eraill. Mae’n gysylltiedig â’r thema hyrwyddo’r gymuned.
Buddsoddi yn y clwb pêl-droed ac mewn offer chwarae
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Buddsoddi yn y clwb pêl-droed ac mewn offer chwarae i blant hŷn yn lle chwarae Maes Albion. Darparu gwell ystafelloedd newid, tŷ clwb a chyfleusterau storio.
Rhaglen Darparu ar gyfer Ieuenctid
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Archwilio darpariaeth i ieuenctid, dan do ac yn yr awyr agored a defnyddio asesau presennol fel neuadd y pentref. Datblygu rhaglen o weithgarwch sy’n canolbwyntio ar fentergarwch pobl ifanc, diwylliant a’r amgylchedd.
Archwilio dichonoldeb cael randiroedd
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Archwilio dichonoldeb cael lle ychwanegol i randiroedd yn y pentref o ran galw, tir sydd ar gael a sut y gall cynnyrch gefnogi llesiant trigolion lleol.

























