Ardaloedd Gwledig
Mae’r cymunedau gwledig canlynol wedi’u diffinio gan Gyngor Sir Ceredigion fel canolfannau gwasanaethau gwledig. Mae gan y tair ar ddeg pentref hyn amrywiaeth o wasanaethau lleol ac maent yn cefnogi’r cymunedau cyfagos. Wrth i’r Cynllun Lle ddatblygu, byddwn yn ychwanegu at y disgrifiadau hyn fel eu bod yn adlewyrchu hunaniaeth a naws pob lle.
Aber-porth/Parc-llyn
Mae Aber-porth/Parc-llyn yn ne-orllewin Ceredigion rhwng yr arfordir a chefnffordd arfordirol yr A487 ac mae’n un o’r grwpiau mwyaf estynedig o bentrefi yn y sir. Ar wahân i’w atyniad i ymwelwyr, y prif gyflogwr lleol yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn y safle taflegrau gerllaw. Mae gan y pentref nifer o gyfleusterau lleol gan gynnwys canolfan/neuadd gymunedol, ysgol gynradd leol, lle chwarae a siopau a gwasanaethau lleol.
Bow Street
Mae Bow Street wedi’i leoli yng nghymuned Tirymynach o Geredigion, tua 3.5 milltir (5.6 cilometr) i’r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Yn ogystal â Bow Street ei hun, mae pentrefi llai Pen-y-garn a Rhydypennau gerllaw. Mae’r tri lle yn ymestyn ar hyd llain gul hir ar hyd y briffordd A487 o Aberystwyth i Fachynlleth.
Cenarth
Cenarth yw un o’r pentrefi lleiaf o safbwynt poblogaeth, gyda chyfran helaeth o’r boblogaeth fechan hon yn byw mewn tyddynod ac aneddiadau bach yn ne Ceredigion, yn ogystal ag yng ngogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Prif nodwedd y pentref yw Rhaeadr Cenarth, atyntiad poblogaidd i ymwelwyr, ac amryw o strwythurau rhestredig eraill gan gynnwys melin yd o’r 18fed ganrif sy’n cynnwys Canolfan Genedlaethol y Cwrwgl.
Felin-fach/Ystradaeron
Mae Felin-fach ac Ystradaeron wedi eu lleoli yn nyffryn Aeron ar yr A482, 10.6 cilometr (6.5 milltir) o Aberaeron a 10.8 cilometr (6.7 milltir) o Lanbedr Pont Steffan. Er ei bod yn cael ei chyfrif fel un o’r Canolfannau Gwasanaethau Gwledig, mae’r ganolfan wedi ei ffurfio o ddau bentref gwahanol ac wrth eu hystyried ar y cyd mae’n cyfrif am fwy na 150 o anheddau. Mae’r pentref hefyd yn lleoliad ffatri prosesu maidd, sydd bellach yn eiddo i Arla Foods Ingredients, sydd â’r bwriad o’i gwneud yn ganolfan gynhyrchu fyd-eang.
Llannarth
Mae Llannarth wedi ei leoli ar gefnffordd yr A487 gyda chyffordd y B4342 i Ceinewydd. Mae’r gefnffordd yn hollti’r pentref yn ddau hanner, gan arwain at rai rhannau serth iawn. Mae’n anheddiad mawr o tua 200 o anheddau, gydag amrywiaeth o arddulliau pensaernīol o’r cyfnod Sioraidd a Fictoriaidd i’r ugeinfed ganrif.
Llanilar
Mae Llanilar yng nghwm Ystwyth, 9.7 cilometr i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Mae’r pentref yn troi tuag Aberystwyth am gyflogaeth a siopau ond mae ganddo amrywiaeth o wasanaethau lleol gan gynnwys canolfan gymunedol a meddygfa. Mae wedi’i leoli ar Lwybr Ystwyth sy’n denu beicwyr a cherddwyr.
Llan-non
Mae Llan-non wedi’i leoli ar arfordir canol Ceredigion, 8 cilometr i’r gogledd o Aberaeron, a 18 cilometr i’r de o Aberystwyth. Mae’r pentref wedi’i enwi ar ôl eglwys y Santes Non (Llan-non), mam Dewi Sant. Mae’n cyffinio â phentref Llansantffraed ar arfordir Bae Ceredigion, gyda Llanon â nifer o gyfleusterau lleol sy’n diwallu anghenion o ddydd i ddydd.
Llanrhystud
Mae Llanrhystud wedi ei leoli ar arfordir gogleddol Ceredigion, ychydig i’r de o Aberystwyth. Mae’r pentref wedi’i enwi ar ôl y sant Cristnogol Cymreig cynnar, Rhystyd. Mae’r pentref yn edrych tuag at Aberystwyth am lawer o’i anghenion ond mae ganddo ysgol gynradd, neuadd goffa a nifer o siopau a gwasanaethau lleol. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn agos at y pentref.
Penrhyn-coch
Mae Penrhyn-coch tua 7 cilometr i’r dwyrain o Aberystwyth. Mae’n bentref estynedig, rhwng Afon Stwei a Nant Silo. Mae amrywiaeth cymharol helaeth o wasanaethau a chyfleusterau ar gael yma gan gynnwys swyddfa bost, siop, garej, clwb pêl-droed / clwb cymdeithasol, cyrtiau tennis, neuaddau cymunedol a mannau addoli. Mae canolfan ymchwil a hyfforddi IBERS Prifysgol Aberystwyth wedi’i lleoli ar ymyl y pentref.
Pontarfynach
Mae Pontarfynach yn cynnwys pentrefi Pontarfynach a Ponterwyd, yng ngogledd-ddwyrain Ceredigion i’r dwyrain o Aberystwyth. Mae’n ardal wledig iawn ei natur ac yn cynnwys un o dirweddau mwyaf trawiadol y sir. Mae Pontarfynach yn fwyaf adnabyddus am y tair pont sy’n croesi Afon Mynach, sy’n llifo i Afon Rheidiol. Y pentref hefyd yw pen y daith a man uchaf y rheilffordd gul hanesyddol, Rheilffordd Cwm Rheidiol.
Pontrhydfendigaid
Mae Ponthydfendigaid wedi’i leoli yn nwyrain Ceredigion, tua 9 cilometr i’r gogledd o Dregaron, sy’n cynnwys cymoedd a gwaelodion Mynyddoedd Cambria. Gorwedd y pentref ar Afon Teifi, o fewn 3 milltir (5 cilometr) i’w tharddiad yn Llyn Teifi i’r dwyrain gerllaw. Mae adfeilion abaty Ystrad Fflur 1 filltir i’r de-ddwyrain o’r pentref. Mae gan y pentref ysgol gynradd, neuadd goffa, adeilad pafiliwn mawr a nifer o siopau a gwasanaethau lleol.
Tal-y-bont
Mae Tal-y-bont yng ngogledd Ceredigion, 11 milltir i’r dwyrain o Aberyswyth. Mae’r pentref a’r ardal yn wledig iawn eu natur, ar lan Afon Leri ac Afon Ceulan, ar waelod Ceulan a Maes-Mawr. Er bod Tal-y-bont yn edrych tuag Aberystwyth am lawer o’i anghenion, mae ganddo ysgol gynradd, neuadd goffa a nifer siopau a gwasanaethau lleol.
Y Borth
Mae’r Borth ar arfordir gogleddol Ceredigion, i’r gogledd o Aberystwyth. Mae’n bentref arfordirol mawr sy’n tyfu yn ystod y tymor twristaidd ac mae’n agos at Warchodfa Natur Genedlaethol Dyffryn Dyfi. Mae gan y gymuned nifer o gyfleusterau, siopau a gwasanaethau bach sy’n cynnwys neuaddau, caeau chwarae, sinema, gorsaf bad achub a gorsaf ar reilffordd y Cambrian.