TREFI

Aberaeron

Mae Aberaeron yn dref yng ngorllewin Ceredigion sydd wedi’i lleoli ar gefnffordd arfordirol yr A487. Cynlluniwyd y dref ar ddechrau’r 19eg ganrif ac mae’n cynnwys adeiladau cain yn arddull cyfnod y Rhaglywiaeth sydd wedi’u lleoli o amgylch prif sgwâr a’r harbwr. Mae’r ardal hon bellach yn ffurfio ardal gadwraeth, ac mae ynddi lawer o siopau, busnesau, llety gwyliau ac anheddau sy’n cael eu diogelu gan statws Adeilad Rhestredig. Digwyddodd y datblygiad diweddarach y tu allan i’r ardal hanesyddol hon. Twristiaeth yw prif ddiwydiant y dref, ond mae hefyd yn gartref i wasanaethau cyhoeddus pwysig, gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion a’r Ganolfan Iechyd Integredig newydd, sef dau sefydliad sy’n creu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol.

Aberteifi

Arferai Aberteifi fod yn dref yn y Sir Aberteifi hanesyddol, a heddiw hi yw’r ail dref fwyaf yng Ngheredigion. Yn tra-arglwyddiaethu ar ddaearyddiaeth a chymeriad y dref, sydd wedi’i lleoli yn ne-orllewin Ceredigion, y mae Afon Teifi a’i llednant, Afon Mwldan.

Aberystwyth

A hithau’n dref yng Ngogledd Ceredigion ar arfordir gorllewinol Cymru sy’n enwog am ei machludoedd haul a’r drudwy tymhorol, mae beirdd ac awduron wedi ysgrifennu am Aberystwyth, ond sut y gallwn grynhoi gwir hanfod y dref?

I’r bobl sy’n byw yma, mae Aberystwyth a’r ardal gyfagos yn unigryw, a gwarchod yr unigrywiaeth a’r ansawdd hwn ym mhob agwedd a fydd yn sicrhau llwyddiant economaidd cynaliadwy yn y dyfodol.

Ceinewydd

Ceinewydd: tref glan môr yng Ngheredigion, Cymru yw Ceinewydd, a chanddi boblogaeth breswyl o tua 1,200 o bobl. Mae wedi’i lleoli ym Mae Ceredigion, ac yn cynnwys harbwr a thraethau tywodlyd mawr. Mae’n parhau i fod yn gyrchfan glan môr boblogaidd ac yn dref bysgota draddodiadol.

Hyd at ddechrau’r 19eg ganrif, ychydig o fythynnod to gwellt wedi’u hamgylchynu â thir amaethyddol, yr harbwr naturiol a ddarparai angorfa ddiogel i gychod pysgota ac ychydig o longau masnachu bach a geid yng Ngheinewydd.

Llanbedr Pont Steffan

Lleolir Llanbedr Pont Steffan yn ne-ddwyrain Ceredigion, yn Ardal Dwf Ranbarthol Dyffryn Afon Teifi. Mae Llanbedr Pont Steffan nid yn unig yn dref brifysgol bwysig, mae hefyd yn gwasanaethu ardal ddaearyddol fawr; mae mewn lleoliad gwledig sy’n cael ei amgylchynu â bryniau a dyffrynnoedd mwyn. Mae Llanbedr Pont Steffan hefyd yn borth i Fynyddoedd Cambria, un o lwybrau mwyaf golygfaol Cymru.

Llandysul

Mae Llandysul yn dref hanesyddol sy’n swatio ar lan Afon Teifi, yr afon enwog am ei sewin a’i heogiaid, ac maen dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn y Normaniaid. Mae’n pontio ffin dau Awdurdod Lleol, gyda Phont-tyweli wedi’i leoli yn Awdurdod Unedol Sir Gaerfyrddin, a Llandysul yn Awdurdod Unedol Ceredigion. Gwasanaethir yr ardal gan dair ardal Cyngor Cymuned sy’n cydgyfarfod yn Llandysul, sef Llanfihangel a Llangeler yn Sir Gaerfyrddin a Llandysul yng Ngheredigion.

Tregaron

Mae Tregaron yn un o chwe thref strategol yng Ngheredigion. Mae pedair o’r trefi hyn – Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul ac Aberteifi – wedi’u lleoli ar Afon Teifi, ac yn ffurfio ffiniau dwyreiniol a deheuol y sir.

Saif Tregaron o fewn ei chefnwlad ei hun, cefnwlad sy’n cwmpasu Dyffryn Teifi, llethrau Mynydd Bach a’r ardal ucheldirol i’r dwyrain, ardal sy’n amhoblog i raddau helaeth. Mae’r ardal yn denau ei phoblogaeth ac yn amaethyddol yn bennaf.