Beth yw Creu Lleoedd

Mae creu lleoedd yn golygu creu mannau y mae pobl am fyw, gweithio a threulio amser ynddynt ac ymweld â nhw.

Mae’n ffordd o feddwl sy’n rhoi pobl wrth wraidd penderfyniadau cynllunio ac sy’n gwneud yn siŵr bod datblygiadau newydd a gwelliannau i ardaloedd presennol yn helpu cymunedau i ffynnu.

Yn hytrach nag ystyried adeiladau neu strydoedd unigol ar eu pen eu hunain, mae creu lleoedd yn mabwysiadu safbwynt ehangach. Mae’n ystyried sut y mae gwahanol rannau o le’n cydweithio â’i gilydd – y siopau, y cartrefi, y parciau, y cysylltiadau trafnidiaeth a’r cyfleusterau cymunedol – a sut y gallant wasanaethu’n well y bobl sy’n eu defnyddio bob dydd. Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn nodi bod tair haen yn perthyn i greu lleoedd yn dda.

Cydnabyddiaeth: Comisiwn Dylunio Cymru

Ffurf ffisegol

Y lleoliad ffisegol sy’n creu’r lle ac mae’n cynnwys y drefwedd, y ffurf adeiledig, y dirwedd, y topograffi, yr ecoleg, y ficrohinsawdd a’r ardaloedd cyhoeddus.

Gweithgaredd

Y gweithgareddau sy’n digwydd yn y lle, a ategir gan ddefnydd tir, symudiadau cerddwyr a beicwyr, chwarae a bywyd cymdeithasol yn yr ardaloedd cyhoeddus, a digwyddiadau.

Ystyr

Nodweddion unigryw lle, sy’n cynnwys y cyd-destun, hunaniaeth lleoedd presennol, ymdeimlad unigryw o le, nodweddion adeiledig a naturiol o bwys, cysylltiadau diwylliannol, profiadau synhwyraidd, diogelwch a chynwysoldeb, ac ymdeimlad o berthyn.

Mae creu lleoedd yn dda yn creu ardaloedd sydd â’u cymeriad a’u hunaniaeth unigryw eu hunain, lle mae pobl yn teimlo ymdeimlad o berthyn a balchder. Mae’n canolbwyntio ar greu lleoedd sy’n ddeniadol, yn hygyrch, yn ddiogel ac yn fywiog ac sy’n hybu iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl.

Mae rhagor o fanylion am Greu Lleoedd i’w gweld yma:

Placemaking

Beth yw Prosiect Siapio Lle

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn blaenoriaethu ymgysylltu â’i gymunedau a’i leoedd dan arweiniad egwyddorion creu lleoedd, sef dull sy’n canolbwyntio ar bobl o gynllunio, dylunio a rheoli mannau cyhoeddus. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â helpu eich cymuned i ddeall eich anghenion, llunio eich gweledigaeth a nodi blaenoriaethau, a bydd pob un ohonynt yn cael eu cyflwyno mewn Cynllun Llunio Lle unigryw.

Strategaeth leol yw Cynllun Llunio Lle sy’n dangos beth sydd ar gymuned ei angen a’i eisiau ar gyfer y dyfodol – fel parciau gwell, cyfleusterau ac amwynderau cymunedol. Mae’n helpu i ddenu cyllid trwy esbonio’n glir pam mae angen y prosiect.

  • Mae’n defnyddio ffeithiau a ffigurau lleol i ddangos beth sydd ar goll neu y gellid ei wella.
  • Mae’n cyfleu gweledigaeth ar y cyd gan y gymuned, gan ddangos beth sydd ar bobl ei eisiau a pham ei fod yn bwysig.
  • Mae’n cysylltu syniadau lleol â strategaethau ehangach y cyngor neu’r llywodraeth – rhywbeth mae cyllidwyr yn hoffi ei weld.
  • Mae’n helpu i sicrhau bod arian yn cael ei wario lle caiff fwyaf o effaith.
  • Gall ryddhau arian o wahanol ffynonellau – llywodraeth, buddsoddwyr preifat neu ddatblygwyr.
  • It shows the project has support and isn’t relying on just one pot of money.
  • Mae’n dangos fod gan y prosiect gefnogaeth ac nad yw’n dibynnu ar un ffynhonnell yn unig o arian.
  • Mae’n rhoi hyder i fuddsoddwyr trwy ddangos bod y cynllun wedi cael ei ystyried yn drylwyr a’i fod yn debygol o lwyddo.
  • Gall ddod â chynghorau, cymunedau a busnesau at ei gilydd i gydweithio tuag at yr un nodau.

Mae gwybodaeth am Gynlluniau Lle i’w gweld yma.