Cyfarfod yr Artistiaid

Meinir Mathias

Mae gwaith Meinir fel artist cymunedol yn rhychwantu sawl degawd ac mae’n cynnwys gweithio gyda phobl o bob oedran a chefndir. Law yn llaw â’i gwaith llawn-amser fel arlunydd, sy’n canolbwyntio ar chwedlau hanesyddol, tir a lle, mae wedi cyflwyno amrywiaeth helaeth o prosiectau celf cymunedol gan ddefnyddio fformatau aml-gyfrwng.

Gyda BA a MA mewn Celfyddyd Gain, a chael ei hyfforddi’n athrawes wedyn, gweithiodd fel athrawes gelf mewn ysgol uwchradd cyn treulio chwe blynedd fel darlithydd llawn-amser yn Ysgol Gelf Caerfyrddin. Dros y blynyddoedd, mae wedi cydweithio gyda amrywiol gwmnīau theatr, gan gynnwys Arad Goch, ar brosiectau dan arweiniad y gymuned sy’n cyfuno perfformio a chelfyddydau gweledol.

Mae ei phrofiad o gelf cymunedol yn cynnwys hefyd curadu arddangosfeydd, dylunio murluniau a mosaigau cyhoeddus, gweithio gyda phlant, oedolion bregus ac anabl mewn lleoliadau gweithdy, a phaentio setiau ar gyfer cynyrchiadau gan gynnwys y rheini yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae ei harferion gwaith wedi eu gwreiddio mewn cydweithio, cynhwysiant, ac ennyn diddordeb ystyrlon drwy’r celfyddydau. Dof â phrofiad, hyblygrwydd a theimlad angerddol dros helpu cymunedau i fynegi eu straeon mewn modd creadigol.

Mae mwy o wybodaeth am Meinir i’w gael yma.

Hattie Morrison

Ers 2020, mae gwaith ysgrifenedig Hattie wedi cael ei gydnabod gan sefydliadau adnabyddus yng Nghymru a Phrydain. Cynrychiolodd Gymru fel Awdur gyda Llenyddiaeth Cymru (2020), cafodd ei henwi’n Awdur Cymreig Ifanc y Flwyddyn gan New Welsh Review (2021), a chafodd ei chefnogi gan Faber fel derbynnydd New Writing North (2023) ac roedd yn Awdur ar Waith yng Ngŵyl y Gelli y llynedd (2025).

Ers iddi raddio ym Mhrifysgol Rhydychen gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Celfyddyd Gain trwy ysgoloriaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (Ceredigion, Ysgol Uwchradd Castellnewydd Emlyn), mae ei gyrfa mewn ysgrifennu celfyddydol yn cynnwys testunau a gyhoeddwyd mewn print, llwyfannu diwylliant gwledig – gan gynnwys adolygiad o Oriel Mostyn, Llandudno yn The Guardian (2022), yn ogystal â dwy nofel hir wedi’u lleoli mewn trefi gwledig yng Nghymru (mae’r rhain yn cael eu hasesu ar hyn o bryd gyda’r asiantaeth CAA ar gyfer eu cyhoeddi).

Boed ar y ddalen neu mewn cyd-destun gweithdy, mae ei gwaith ysgrifenedig wedi ei symbylu gan chwilfrydedd yn nhraddodiadau adrodd straeon mewn cymunedau gwledig, ac o’r straeon nas cyhoeddwyd yn y lleoedd hynny sy’n aml yn cael eu gwthio i’r ymylon. Beth bynnag fo’r prosiect, mae fy ysgrifennu o dan ddylanwad cyson y cyd-destun y cefais fy magu ynddo a lle rwy’n byw: y Gymru wledig ddwyieithog.

Mae mwy o wybodaeth am Hattie i’w gael yma.

Heledd Wyn

Mae gan Heledd brofiad helaeth o waith sy’n ymwneud â chymdeithas a lle, ar ôl cydweithio gyda chymunedau, ysgolion, elusennau, tirfeddiannwyr a sefydliadau ledled Cymru.

Fel cyfarwyddwr a gwneuthurwr ffilm sydd wedi ei hyfforddi gan y BBC ac sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith, mae’n dod â chreadigrwydd ac arbenigedd technegol i sicrhau bod straeon yn cael eu dweud mewn ffordd wreiddiol, dreiddgar ac effeithlon.

Law yn llaw â hyn, mae Heledd yn darlithio mewn Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae’n cefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr i greu straeon gweledol o safon gwobrwyo. Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn Diwtor Academaidd Personol hyfforddedig, swyddogaethau sydd wedi cryfhau eu sgiliau mentora a hwyluso. Mae’n hwylusydd cymwysedig (CGGC, 2024), yn arweinydd cyd-gynllunio achrededig, ac fel fentor a hyfforddwr ardystiedig BECTU, gyda hanes cryf o greu gweithdai sy’n galluogi cyfranogwyr i fyfyrio, dychmygu a chreu gyda’i gilydd.

Mae mwy o wybodaeth am Heledd i’w gael yma.