Symudiad a Thrafnidiaeth
5Gwella pyrth a lleihau cyflymder traffig
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella pyrth a lleihau cyflymder traffig i mewn i’r pentrefi gyda nodweddion graddol sy’n cynnal y terfyn cyflymder ac yn codi ymwybyddiaeth o droadau dall a risgiau eraill. Arwyddion, ymestyn darnau o’r pafin allan, planhigion (os yn ymarferol), ymgyrch a gynllunir gan yr ysgol gynradd.
Gwella llwybrau a goleuadau
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella llwybrau a goleuadau ar ffyrdd allweddol (ysgol, siopau, y traeth) sy’n sensitif i’r galw (synwyryddion symud/traffig).
Rheoli traffig a phobl o amgylch Ffordd Yr Odyn
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Rheoli traffig a phobl o amgylch Ffordd Yr Odyn sy’n dangos y ffordd i gerddwyr yn yr ardal, cyfeirio pobl trwy’r maes parcio, darpariaeth parcio i’r anabl a mynediad ramp i’r traeth. Trin y gerbytffordd ac arwyddion ychwanegol.
darpariaeth parcio oddi
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Canfod safleoedd ar gyfer darpariaeth parcio oddi ar y stryd (tymhorol/cyfnod brig/gorlif).
cynllun llogi e-feiciau cymunedol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Dichonoldeb cynllun llogi e-feiciau cymunedol sy’n cysylltu cymdogaethau cyfagos.
Yr Amgylchedd Leol
3Rheoli datblygiad rhwng Aberporth a Tresaith
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Rheoli datblygiad rhwng Aberporth a Tresaith, gwarchod caeau gwyrdd a thir ffermio, a hunaniaethau’r ddwy gymuned hyn.
Gwella hawliau tramwy cyhoeddus
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella hawliau tramwy cyhoeddus ledled yr holl gymuned, fel eu bod yn glir o lystyfiant, wedi eu harwyddo’n glir ac yn cysylltu â’i gilydd i greu cylchdeithiau.
Gwella bioamrywiaeth
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella bioamrywiaeth mewn parciau, ymylon ffyrdd, llecynnau amwynderol a thir cyhoeddus a danddefnyddir, trwy blannu coed cynhenid a chynefinoedd cymysg sy’n helpu gyda chadw dŵr, dal a storio carbon a llesiant cyffredinol.
Treftadaeth Leol
2Cefnogi Llwybr Barddoniaeth Aberporth
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Cefnogi Llwybr Barddoniaeth Aberporth, sy’n gylchdaith gerdded o 2.45 milltir (3.9 km) trwy goetiroedd hardd gydag ymwelwyr yn cael gweld detholiad o gerddi Dic Jones. Nod y Cyngor Cymuned yw darparu:
Ap dwyieithog am ddim a fydd yn dehongli’r llwybr a rhoi gwybodaeth am fywyd a gwaith Dic Jones,
Cynnal Digwyddiad Lansio yng Nghapel Blaenannerch Chapel a fydd yn ail-fyw ysbryd yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176.
deunydd dehongli cymunedol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu deunydd dehongli treftadaeth ledled y gymuned a’i hyrwyddo mewn mannau cyrraedd allweddol ee maes parcio, toiledau cyhoeddus, parciau, etc.
Hybu Cymuned
1gwefan gymunedol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu gwefan gymunedol sy’n dathlu bywyd yn Aberporth-Parcllyn, rôl y cyngor cymuned, dangos beth sydd ymlaen, a gwybodaeth leol arall.
Adnoddau Cymunedol
8darpariaeth i bobl ifanc a Gweithgareddau Awyr Agored
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Archwilio opsiynau ar gyfer darpariaeth i bobl ifanc o fewn nifer o leoliadau cymunedol yn ogystal â rhaglen o weithgareddau awyr agored. Gweithgareddau’n canolbwyntio ar fentergarwch ieuenctid, gweithgareddau natur/awyr agored ac arloesi/technoleg.
Datblygu darpariaeth chwarae
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu darpariaeth chwarae i grŵp oedran ehangach sy’n hygyrch a chynhwysol yn lle chwarae Banc Y Dyffryn a’r cae hamdden cyfagos.
Gwella mynediad i’r traeth a chyfleusterau
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella mynediad i’r traeth a chyfleusterau gan gynnwys toiledau cyhoeddus a lle storio, dec gwylio, clwb syrffio, cerrig llamu priodol dros Nant Owni ar y traeth, ffyrdd o gyfyngu ar geir yn parcio ar y traeth a gwelliannau eraill.
Asesu capasiti seilwaith lleol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Asesu capasiti seilwaith lleol ee carthffosiaeth o fewn y gymuned, yn benodol rhwng Parcllyn ac Aberporth ee coridor Nant Gilwen.
Creu canolfan gymunedol a llecyn amwynderau newydd
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Creu canolfan gymunedol a llecyn amwynderau newydd. Y rhain i gynnwys:
- Pafiliwn newydd gyda dwy ystafell newid i dimau
- Lle i grwpiau newid a lle cymdeithasol, addas ar gyfer aml-ddefnydd, gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd bach, Pilates, cyfarfodydd a chefnogi gweithgareddau’r cae
- Ymestyn y cae presennol i faint llawn ar gyfer cystadlaethau i oedolion a’i uwchraddio
- Cyflwyno dau le chwarae 9v9 i ieuenctid
- Yr ardal gyffredinol i roi lle i weithgareddau haf – gŵyl, dyddiau chwaraeon, rhedeg am hwyl, rownderi, pêl fas, criced.
- Lle i barcio hyd at 30 o geir
- Gwella’r fynedfa
- Datblygu ardal bioamrywiaeth gerllaw ffiniau llecyn agored yr MOD
- Llwybrau cerdded, a lleoedd/meinciau picnic, biniau sbwriel, lle i fynd â chwn am dro
- Cyflwyno clawdd ar ochr y ffordd i wella golwg y safle, a bioamrywiaeth.
- Gallai syniadau pellach ar gyfer y safle gynnwys:
- Trac pwmp o fewn yr ardal bioamrywiaeth
- Parc sglefrio rhwng y prif gae chwarae a’r cae chwarae iau.
datblygu tai gwledig
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Galluogi datblygu tai gwledig ar safleoedd a ddyranwyd, sy’n cefnogi tai cytbwys o ran oedran ac sy’n dilyn codau dylunio lleol, ac yn integreiddio â’r gymuned leol. Bod yn ymwybodol o’r cyflenwad presennol o ail gartrefi.
gwasanaethau iechyd symudol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu gwasanaethau iechyd symudol sy’n defnyddio lleoliadau cymunedol ar gyfer gwiriadau iechyd, sgrinio, brechu, gofal clwyfau a gwasanaethau meddygon teulu.
Datblygu gweithgareddau llesiant
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu gweithgareddau llesiant ee siediau dynion, rhandiroedd, caffi cymunedol.


















