Gweledigaeth a Syniadau ar gyfer y Gymuned

Gweledigaeth

Cymuned arfordirol gysylltiedig a ffyniannus lle mae ffordd iach o fyw ac ymdeimlad cryf o berthyn yn rhan annatod o fywyd i bobl o bob oedran a chefndir. Mae Aberporth a Parcllyn wedi tyfu mewn ffordd gytbwys, sy’n ymateb i bwysau galw arfordirol, tai a thwristiaeth a hefyd yn darparu cyfleusterau ar gyfer cymuned fywiog, eu galluogi i symud yn saffach, a chyfleoedd i bawb. Mae tirwedd gwarchodedig, gwell mynediad at fyd natur, a dathlu treftadaeth ddiwylliannol yn cryfhau hunaniaeth yr holl gymuned.

Blaenoriaethau a Themâu

Cynllun

Symudiad a Thrafnidiaeth Yr Amgylchedd Leol Treftadaeth Leol Hybu Cymuned Adnoddau Cymunedol

Symudiad a Thrafnidiaeth

5
Cynnig #1

Gwella pyrth a lleihau cyflymder traffig

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Cymuned Aberporth

Gwella pyrth a lleihau cyflymder traffig i mewn i’r pentrefi gyda nodweddion graddol sy’n cynnal y terfyn cyflymder ac yn codi ymwybyddiaeth o droadau dall a risgiau eraill. Arwyddion, ymestyn darnau o’r pafin allan, planhigion (os yn ymarferol), ymgyrch a gynllunir gan yr ysgol gynradd.

Cynnig #3

Gwella llwybrau a goleuadau

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Sir Ceredigion Cyngor Cymuned Aberporth

Gwella llwybrau a goleuadau ar ffyrdd allweddol (ysgol, siopau, y traeth) sy’n sensitif i’r galw (synwyryddion symud/traffig).

Cynnig #7

Rheoli traffig a phobl o amgylch Ffordd Yr Odyn

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Sir Ceredigion

Rheoli traffig a phobl o amgylch Ffordd Yr Odyn sy’n dangos y ffordd i gerddwyr yn yr ardal, cyfeirio pobl trwy’r maes parcio, darpariaeth parcio i’r anabl a mynediad ramp i’r traeth. Trin y gerbytffordd ac arwyddion ychwanegol.

Cynnig #14

darpariaeth parcio oddi

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Sir Ceredigion Tirfeddianwyr

Canfod safleoedd ar gyfer darpariaeth parcio oddi ar y stryd (tymhorol/cyfnod brig/gorlif).

Cynnig #15

cynllun llogi e-feiciau cymunedol

Dim Statws

Amserlen

Hir Dymor

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth Cyngor Sir Ceredigion

Dichonoldeb cynllun llogi e-feiciau cymunedol sy’n cysylltu cymdogaethau cyfagos.

Yr Amgylchedd Leol

3
Cynnig #2

Rheoli datblygiad rhwng Aberporth a Tresaith

Dim Statws

Amserlen

Hir Dymor

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Sir Ceredigion

Rheoli datblygiad rhwng Aberporth a Tresaith, gwarchod caeau gwyrdd a thir ffermio, a hunaniaethau’r ddwy gymuned hyn.

Cynnig #9

Gwella hawliau tramwy cyhoeddus

Dim Statws

Amserlen

Hir Dymor

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth Cyngor Sir Ceredigion

Gwella hawliau tramwy cyhoeddus ledled yr holl gymuned, fel eu bod yn glir o lystyfiant, wedi eu harwyddo’n glir ac yn cysylltu â’i gilydd i greu cylchdeithiau.

Cynnig #16

Gwella bioamrywiaeth

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth Cyngor Sir Ceredigion Grwpiau lleol eraill

Gwella bioamrywiaeth mewn parciau, ymylon ffyrdd, llecynnau amwynderol a thir cyhoeddus a danddefnyddir, trwy blannu coed cynhenid a chynefinoedd cymysg sy’n helpu gyda chadw dŵr, dal a storio carbon a llesiant cyffredinol.

Treftadaeth Leol

2
Cynnig #17

Cefnogi Llwybr Barddoniaeth Aberporth

Dim Statws

Amserlen

Tymor Byr

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth

Cefnogi Llwybr Barddoniaeth Aberporth, sy’n gylchdaith gerdded o 2.45 milltir (3.9 km) trwy goetiroedd hardd gydag ymwelwyr yn cael gweld detholiad o gerddi Dic Jones. Nod y Cyngor Cymuned yw darparu:
 Ap dwyieithog am ddim a fydd yn dehongli’r llwybr a rhoi gwybodaeth am fywyd a gwaith Dic Jones,
 Cynnal Digwyddiad Lansio yng Nghapel Blaenannerch Chapel a fydd yn ail-fyw ysbryd yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 1176.

Cynnig #18

deunydd dehongli cymunedol

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth

Datblygu deunydd dehongli treftadaeth ledled y gymuned a’i hyrwyddo mewn mannau cyrraedd allweddol ee maes parcio, toiledau cyhoeddus, parciau, etc.

Hybu Cymuned

1
Cynnig #19

gwefan gymunedol

Dim Statws

Amserlen

Tymor Byr

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth

Datblygu gwefan gymunedol sy’n dathlu bywyd yn Aberporth-Parcllyn, rôl y cyngor cymuned, dangos beth sydd ymlaen, a gwybodaeth leol arall.

Adnoddau Cymunedol

8
Cynnig #4

darpariaeth i bobl ifanc a Gweithgareddau Awyr Agored

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth Cyngor Sir Ceredigion

Archwilio opsiynau ar gyfer darpariaeth i bobl ifanc o fewn nifer o leoliadau cymunedol yn ogystal â rhaglen o weithgareddau awyr agored. Gweithgareddau’n canolbwyntio ar fentergarwch ieuenctid, gweithgareddau natur/awyr agored ac arloesi/technoleg.

Cynnig #5

Datblygu darpariaeth chwarae

Dim Statws

Amserlen

Hir Dymor

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth

Datblygu darpariaeth chwarae i grŵp oedran ehangach sy’n hygyrch a chynhwysol yn lle chwarae  Banc Y Dyffryn a’r cae hamdden cyfagos.

Cynnig #6

Gwella mynediad i’r traeth a chyfleusterau

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Aml-sefydliad

Gwella mynediad i’r traeth a chyfleusterau gan gynnwys toiledau cyhoeddus a lle storio, dec gwylio, clwb syrffio, cerrig llamu priodol dros Nant Owni ar y traeth, ffyrdd o gyfyngu ar geir yn parcio ar y traeth a gwelliannau eraill.

Cynnig #8

Asesu capasiti seilwaith lleol

Dim Statws

Amserlen

Hir Dymor

Mudiad Cyfrifol

Dŵr Cymru

Asesu capasiti seilwaith lleol ee carthffosiaeth o fewn y gymuned, yn benodol rhwng Parcllyn ac Aberporth ee coridor Nant Gilwen.

Cynnig #10

Creu canolfan gymunedol a llecyn amwynderau newydd

Dim Statws

Amserlen

Tymor Canol

Mudiad Cyfrifol

Seilwaith ac Eiddo’r Weinyddiaeth Amddiffyn Cyngor Cymuned Aberporth

Creu canolfan gymunedol a llecyn amwynderau newydd. Y rhain i gynnwys:

  • Pafiliwn newydd gyda dwy ystafell newid i dimau
  • Lle i grwpiau newid a lle cymdeithasol, addas ar gyfer aml-ddefnydd, gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd bach, Pilates, cyfarfodydd a chefnogi gweithgareddau’r cae
  • Ymestyn y cae presennol i faint llawn ar gyfer cystadlaethau i oedolion a’i uwchraddio
  • Cyflwyno dau le chwarae 9v9 i ieuenctid
  • Yr ardal gyffredinol i roi lle i weithgareddau haf – gŵyl, dyddiau chwaraeon, rhedeg am hwyl, rownderi, pêl fas, criced.
  • Lle i barcio hyd at 30 o geir
  • Gwella’r fynedfa
  • Datblygu ardal bioamrywiaeth gerllaw ffiniau llecyn agored yr MOD
  • Llwybrau cerdded, a lleoedd/meinciau picnic, biniau sbwriel, lle i fynd â chwn am dro
  • Cyflwyno clawdd ar ochr y ffordd i wella golwg y safle, a bioamrywiaeth.
  • Gallai syniadau pellach ar gyfer y safle gynnwys:
  • Trac pwmp o fewn yr ardal bioamrywiaeth
  • Parc sglefrio rhwng y prif gae chwarae a’r cae chwarae iau.
Cynnig #11

datblygu tai gwledig

Dim Statws

Amserlen

Hir Dymor

Mudiad Cyfrifol

Datblygwr darparwr tai

Galluogi datblygu tai gwledig ar safleoedd a ddyranwyd, sy’n cefnogi tai cytbwys o ran oedran ac sy’n dilyn codau dylunio lleol, ac yn integreiddio â’r gymuned leol. Bod yn ymwybodol o’r cyflenwad presennol o ail gartrefi.

Cynnig #12

gwasanaethau iechyd symudol

Dim Statws

Amserlen

Hir Dymor

Mudiad Cyfrifol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Datblygu gwasanaethau iechyd symudol sy’n defnyddio lleoliadau cymunedol ar gyfer gwiriadau iechyd, sgrinio, brechu, gofal clwyfau a gwasanaethau meddygon teulu.

Cynnig #13

Datblygu gweithgareddau llesiant

Dim Statws

Amserlen

Hir Dymor

Mudiad Cyfrifol

Cyngor Cymuned Aberporth

Datblygu gweithgareddau llesiant ee siediau dynion, rhandiroedd, caffi cymunedol.