Mae Felinfach ac Ystrad Aeron wedi eu lleoli yn nyffryn Aeron ar yr A482, 10.6 cilometr (6.5 milltir) o Aberaeron a 10.8 cilometr (6.7 milltir) o Lanbedr Pont Steffan. Er ei bod yn cael ei chyfrif fel un o’r Canolfannau Gwasanaethau Gwledig, mae’r ganolfan wedi ei ffurfio o ddau bentref gwahanol ac wrth eu hystyried ar y cyd mae’n cyfrif am fwy na 150 o anheddau. Mae’r pentref hefyd yn lleoliad ffatri prosesu maidd, sydd bellach yn eiddo i Arla Foods Ingredients, sydd â’r bwriad o’i gwneud yn ganolfan gynhyrchu fyd-eang.

