Y Borth
Mae’r Borth ar arfordir gogleddol Ceredigion, i’r gogledd o Aberystwyth. Mae’n bentref arfordirol mawr sy’n tyfu yn ystod y tymor twristaidd ac mae’n agos at Warchodfa Natur Genedlaethol Dyffryn Dyfi. Mae gan y gymuned nifer o gyfleusterau, siopau a gwasanaethau bach sy’n cynnwys neuaddau, caeau chwarae, sinema, gorsaf bad achub a gorsaf ar reilffordd y Cambrian.
Pobl a Lle
Ffeithiau a ffigurau allweddol am eich cymuned, fel poblogaeth, tai, iechyd, gweithgarwch economaidd a mwy. Deall pa siopau a chyfleusterau lleol sydd ar gael yn eich pentref a hefyd sut mae pobl yn symud o gwmpas.
Stori’r Gymuned
Darllen, gwrando a gwylio beth mae pobl leol wedi ei rannu gyda ni am eu cymuned heddiw, beth maen nhw’n ei hoffi, a’u gobeithion am y dyfodol. Mae hyn wedi cael ei gyfleu gan dri artist lleol, sydd wedi mapio diffygion a syniadau yn ogystal â defnyddio’n offerynnau digidol i gymryd rhan yn y prosiect. Mwy o wybodaeth yma.
Gweledigaeth y Gymuned
Wrth ddadansoddi data a ffigurau, cyfarfod trigolion a grwpiau lleol mewn sesiynau galw heibio yn y pentrefi, a darllen sylwadau digidol pobl, mae’r sgyrsiau cymunedol wedi helpu’r prosiect i gyrraedd y dasg o awgrymu syniadau ar gyfer pob pentref.