Mae Llandysul yn dref hanesyddol sy’n swatio ar lan Afon Teifi, yr afon enwog am ei sewin a’i heogiaid, ac maen dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn y Normaniaid. Mae’n pontio ffin dau Awdurdod Lleol, gyda Phont-tyweli wedi’i leoli yn Awdurdod Unedol Sir Gaerfyrddin, a Llandysul yn Awdurdod Unedol Ceredigion. Gwasanaethir yr ardal gan dair ardal Cyngor Cymuned sy’n cydgyfarfod yn Llandysul, sef Llanfihangel a Llangeler yn Sir Gaerfyrddin a Llandysul yng Ngheredigion. Mae’n un o gadwyn o drefi marchnad sy’n rhedeg ar hyd Dyffryn Teifi, sef Aberteifi i’r de, yna Castellnewydd Emlyn, Llandysul, Llanybydder a Llanbedr Pont Steffan, a Thregaron yn y gogledd, yn nharddiad Afon Teifi.
Mae’n dref farchnad draddodiadol, lle mae amaethyddiaeth yn parhau i chwarae rhan arwyddocaol yn economi’r ardal. Yn y gorffennol, roedd y gefnwlad yn gwneud defnydd mawr o’r afon gan ei bod yn llwybr masnachu ar gyfer y melinau gwlân, diwydiant a oedd yn un o gyflogwyr pennaf yr ardal. Yn hanesyddol, roedd y Pwerdy, sy’n ganolfan gelfyddydol a chymunedol ar hyn o bryd, yn cynhyrchu trydan o dyrbinau yn Afon Teifi i gyflenwi ardal Llandysul a Phont-tyweli.
Hyd at gyfnod Beeching, roedd rheilffordd yn gwasanaethu Llandysul, gan hwyluso’r gwaith o fewnforio ac allforio nwyddau. Ym mhen y lein, mewn man cyfleus, lleolwyd marchnad da byw i hyrwyddo’r cyfleoedd a ddaeth yn sgil y rheilffordd. Gwaetha’r modd, daeth y farchnad da byw i ben o ganlyniad i newid mewn arferion amaethyddol ac i wneud lle ar gyfer Ffordd Osgoi Llandysul, a oedd yn ffurfio rhan o gynllun ffordd gyswllt Ceredigion.
Dros y blynyddoedd, yn y sector preifat a chyhoeddus fel ei gilydd, rydym wedi gweld dirywiad yn y gwasanaethau a ddarperir yn y dref, a thranc y pedwar prif fanc a arferai weithredu o’n Stryd Fawr. Rydym unwaith eto ar groesffordd ac yn wynebu heriau aruthrol o ran darpariaeth stryd fawr. Yn ddi-os, bydd yn rhaid i ni gynnig gwasanaethau a chynhyrchion na ellir dod o hyd iddynt yn hawdd mewn siopau y tu allan i drefi.
Mae’r iaith yn ffynnu o hyd yn yr ardal orllewinol hon o Gymru lle siaredir y Gymraeg yn bennaf, ac, yn rhanbarthol, mae iddi un o’r wardiau mwyaf Cymraeg ei hiaith yng Ngheredigion.
Ffeithiau a Ffigurau Pwysig

