Gweledigaeth a Syniadau ar gyfer y Gymuned
Gweledigaeth
Mae pobl o bob oed yn teimlo’u bod yn perthyn, yn cael croeso a chefnogaeth, a’u bod gartref yn Nhal-y-bont. Gyda gwead cymdeithasol cryf y pentref yn ysbrydoli ei bobl, mae gwell cyfleusterau cymunedol bellach yn cynnig dewis ehangach o weithgareddau, a’r rheini’n amrywio o gerddoriaeth fyw a digwyddiadau diwylliannol i gyfarfodydd cymdeithasol, law yn llaw â phwyslais o’r newydd ar dreftadaeth leol.
Mae ei strydoedd yn saffach ac yn haws eu cerdded, a pharcio’n haws i bawb. Mae gwelliannau amgylcheddol yn rhoi gwedd newydd i’r pentref ac yn creu canolbwyntiau allweddol, tra bod adfer yr afon, gwella ansawdd dŵr a lliniaru llifogydd wedi cryfhau gwytnwch amgylcheddol trwy ymateb cydgysylltiedig gan wahanol asiantaethau.
Blaenoriaethau a Themâu

Cynllun
Symudiad a Thrafnidiaeth
3Gwella pyrth y pentref a lleihau cyflymder traffig
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella pyrth y pentref a lleihau cyflymder traffig. Wrth ddynesu o’r gogleddd a’r de-orllewin mae angen i) cyhoeddi hunaniaeth Tal-y-bont mewn ffordd sy’n cydnabod ei leoliad gwledig/amaethyddol a’i felin ii) cysylltu â chyfres o fesurau lleihau cyflymder o fewn y rhan o’r A487 sydd yn y pentref.
dichonoldeb croesfan i gerddwyr wrth yr ysgol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Astudio dichonoldeb croesfan i gerddwyr wrth yr ysgol. Fel rhan o gynllun ehangach i leihau cyflymder, archwilio dichonoldeb croesfan dan reolaeth goleuadau yng nghyffiniau’r ysgol gynradd.
Rheoli parcio oddi ar y stryd a lleihau cyflymder traffig
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Rheoli parcio oddi ar y stryd a lleihau cyflymder traffig. Mae parcio oddi ar y stryd yn her anodd i drigolion sy’n byw ar yr A487 yn Nhal-y-bont, gyda’r trefniant presennol ar gyfer parcio ar y stryd yn creu adran o symudiad un-ffordd i gerbydau a chyfleoedd cyfyngedig i gerddwyr groesi’r ffordd yn ddiogel. Mae angen i astudiaeth ddichonoldeb archwilio parcio oddi ar y stryd neu reoli parcio ar y stryd mewn ffordd sy’n lleihau cyflymder a hwyluso cerddwyr i groesi’n ddirwystr.
Yr Amgylchedd Leol
5Patsyn Glas a Gwesty’r Llew Du
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Patsyn Glas a Gwesty’r Llew Du. Cynnal llecyn glaswelltog syml ac agored y Patsyn Glas fel man allweddol yn y pentref. Rheoli aflerwch stryd o fewn y llecyn. Defnyddio ffryntiad y Llew Du i gefnogi buddsoddi pellach a’i alluogi i ailagor.
Rheoli ansawdd yr afon a’r amgylchedd
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Rheoli ansawdd yr afon a’r amgylchedd gan gynnwys y cynllun rheoli llifogydd: Cynllun Lliniaru Llifogydd Tal-y-Bont. Rheoli rhywogaethau ymledol estron, creu hynny â phosibl o gynefinoedd byd natur, gan fynd i’r afael hefyd â materion yn ymwneud ag ansawdd dŵr, llifogydd a mynediad. Gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i gyflawni gwaith adfer ar lefel dalgylch ar hyd Afonydd Leri, Cyneiniog a Ceulan. Aros am y dewis a ffefrir gan Gyngor Sir Ceredigion sy’n ystyried hyfywedd technegol, risgiau iechyd a diogelwch, effeithiau a chyfleoedd amgylcheddol, a chefnogaeth rhanddeiliaid. Mae’r dewisiadau’n cynnwys ardaloedd storio llifogydd, Rheoli Risgiau Llifogydd mewn Modd Naturiol a mesurau Adfer Afonydd.
Datblygu cod dylunio lleol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu cod dylunio lleol ar gyfer dodrefn stryd, arwyddion, etc sy’n gosod cyfres addas o feinciau, biniau, bolardau, arwyddion a dodrefn arall sy’n gweithio gyda chymeriad y pentref.
balchder pentrefol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gweithgareddau balchder pentrefol sy’n annog gwirfoddoli, ffyrdd llesol o fyw a thargedu pocedi a danddefnyddir o dir, digwyddiadau codi sbwriel a gwaith celf cymunedol.
Asesu cryfder goleuadau
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Asesu cryfder goleuadau a defnyddio tariannau i gyrraedd safonau awyr dywyll.
Treftadaeth Leol
1dehongli treftadaeth yr hen felin
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu gwaith dehongli treftadaeth yr hen felin a diwydiannau eraill, straeon a phobl nodedig. Gallai’r dehongli fod yn ffurf llwybr sail, placiau dehongli ffisegol neu fod yn gyfres o weithiau celf o amgylch y pentref sy’n ffurfio cylchdaith.
Hybu Cymuned
2Dysgu Cymraeg trwy Gweithgareddau Cymunedol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Dysgu Cymraeg trwy hanes, natur a bwyd. Datblygu cyfres o weithgareddau dysgu cymunedol a allai fod trwy grwpiau cerdded, digwyddiadau tacluso’r pentref, dosbarthiadau coginio a sgyrsiau lleol.
gwefan gymunedol
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu gwefan gymunedol sy’n dathlu bywyd yn Ceulanamaesmawr, rôl y cyngor cymuned, dangos beth sydd ymlaen a gwybodaeth leol arall.
Adnoddau Cymunedol a Chartrefi
7uwchraddio seilwaith cyfleustodau
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Asesu’r seilwaith cyfleustodau presennol ac uwchraddio lle bo’r angen. Digwyddiadau mynych o brinder dŵr o fewn cymdogaeth Maes Y Deri sy’n gofyn am sylw gan Dŵr Cymru.
Galluogi codi tai gwledig
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Galluogi codi tai gwledig. Darparu tai gwledig ar y safle a ddyrannwyd sy’n diwallu anghenion lleol ac yn integreiddio â’r gymuned leol yn ffisegol ac yn gymdeithasol.
Gwella’r lle chwarae presennol oddi ar Tanycoed
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella’r lle chwarae presennol oddi ar Tanycoed gan gynnwys arwyneb diogelwch, offer chwarae, a gwella’r pwynt ailgylchu cymunedol.
Neuadd Goffa i ddod yn ganolfan i’r gymuned
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Neuadd Goffa i ddod yn ganolfan i’r gymuned. Cydweithio â phwyllgor y Neuadd i archwilio’r syniad o ddatblygu gweithgareddau ehangach sy’n cynnwys caffi cymunedol, darpariaeth ieuenctid, cerddoriaeth fyw gan gynnwys bandiau lleol, sinema gymunedol a mwy o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol.
Hyrwyddo a rheoli toiledau cyhoeddus
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Hyrwyddo a rheoli toiledau cyhoeddus. Cynnal y toiledau, sydd ym mherchnogaeth Cyngor Sir Ceredigion ond sy’n cael eu cynnal a’u cadw gan Gyngor Cymuned Ceulanamaesmawr. Archwilio ffyrdd o leihau costau ee cynaeafu dŵr glaw, defnyddio panel PV ar y to.
Gwella capasiti gorsaf bwmpio Dŵr Cymru ar Afon Leri.
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Gwella capasiti gorsaf bwmpio Dŵr Cymru ar Afon Leri.
Datblygu pwyntiau gwefru
Dim Statws
Mudiad Cyfrifol
Datblygu pwyntiau gwefru cyhoeddus i gerbydau trydan yn y pentref i drigolion lleol ac ymwelwyr. Canfod lleoliadau parcio oddi ar y stryd, neu ddefnyddio lampau cyhoeddus ffyrdd ar gyfer gwefru.















